top of page

Cylchlythyr gaeaf 2025

nomisrogers

Cylchlythyr Calon y Gymuned Aberporth Ionawr - Mawrth 2025


Croeso i'n cylchlythyr chwarterol newydd sbon, sy'n edrych yn ôl ac ymlaen gyda erthyglau a gwybodaeth i'ch helpu chi i gael y mwya allan o'n pentref hyfyd.


Rheolir Neuadd Bentref Aber-porth a Chanolfan y Dyffryn gan ymddiriedolwyr. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn ein cymuned lleol, cysylltwch â ni. Mae yna groeso hefyd i ymddiriedolwyr newydd i ymuno â phwyllgor Neuadd y Pentref.


 

Cyfarfod â'r ymddiriedolwyr – nodwedd newydd rheolaidd


Sue Lewis – yn gyfrifol am ein cynigion grant dros y 5 mlynedd diwethaf, hefyd yn gynghorydd y gymuned, yn llywodraethwr ysgol ac yn gadeirydd yr elusen anghenion arbennig “Ffrindiau Canolfan y Don”. Hi hefyd yw swydddog diogelwch y Neuadd. Mae Sue yn gyffrous am y neuadd newydd a'r tîm gwirfoddoli anhygoel.


Sue

Beryl Green – Ymddeolodd Beryl fel nyrs a bydwraig ac fe symudodd i fyw i Aberporth yn 2004. Mae Beryl yn gwirfoddoli yng ngardd y gymuned, yn rhedeg grŵp i ddysgwyr o'r enw “Paned a Sgwrs”, ac yn rhoi llawer o'i amser i helpu a chefnogi pob digwyddiad sy yn y neuadd ac yng nghanolfan y Dyffryn. Mae hi hefyd yn warden Eglwys St Cynwyl ac yn aelod o Ferched y Wawr.




 

Cymdeithas Hanes Aber-porth

Cyfarfodydd misol poblogaidd ar yr ail ddydd Mercher o bob mis am 7 o'r gloch. Trafodir amrywiaeth o bynciau gyda ffocws leol. Yn ddiweddar, trafodwyd coed cas gan fwnci ac yn fuan fydd yna areithiau ar hanes tai y plwyf, ar hen ddyddiaduron trigolion y pentref ac ar dafarnau Aberporth, Cysylltwch â Max Thom ar 07766122669



Y Gaeaf yn Aber-porth yn 1962 gan Joanna Jeffery 

Fy atgof mwya cofiadwy ydy'r diwrnod pan naeth eira ddechrau disgyn yn 1962. Roeddwn i'n 7 mlwydd oed, roedd hi cyn Nadolig ag fe aethon i'r ysgol yn Aberporth fel arfer ond ar y diwrnod hwnnw daeth Mam a Nhad i'n nôl ni o'r ysgol yn gynnar. Wrth gât y fferm, dwy filltir a hanner i ffwrdd o'r ysgol, roedd lluwchfeydd eira yn ffurfio yn gyflym ac oherwydd hynny fe wnaeth Mam gymryd drosodd y gyrru tra bo’ Nhad yn cloddio trwy'r eira fel ein bod gallu mynd lawr y lôn. Fe wnaeth y lluwchfeydd ein amgylchynu, yn sydyn doedd pethau ddim mor gyffrous a dechreuodd pethau deimlo'n ddifrifol dros ben. 

Mae gennyf atgofion arall o'r gaeaf hynny. Roedd yr eira yn llenwi'r ffyrdd cyfagos hyd at dop y cloddiau; roedd hi'n hynod o oer; roedd rhaid i'n rhieni odro mewn golau lamp; cerddodd Mam ar hyd y caeau i nôl bara o Dre-saith a roedden ni bant o'r ysgol am dros 6 wythnos!!!


 

Persbectif Gwirfoddolwr Newydd gan Lesley Earp

Roeddwn i'n eistedd yn Neuadd y Pentref Aberporth mewn cyfarfod gwirfoddolwyr pan sylweddolais pa mor lwcus oeddwn i symud i Aber-porth. Pan symudais i fyw yma blwyddyn yn ôl roeddwn yn ymwybodol bod y pentref a'i leoliad yn fendigedig ond doeddwn heb sylweddoli pa mor gyfeillgar a charedig oedd trigolion y pentref.  

  

Wedi ymuno â'r grwp cerdded ar ddydd Mercher fe gwrddais â rhai o wirfoddolwyr y ddwy neuadd. Fe wnaeth Pam a Christine fy annog i archwilio'r cyfleoedd gwirfoddoli. Yn y pen draw fe ymunais â'r gwirfoddolwyr a dw i'n hapus i rhannu fy nghariad at arddio gyda Beryl, Christine a Brian sy wedi bod yn hynod o groesawgar. Dw i wedi cael gymaint o foddhad a mwynhad wrth weld y planhigion a'r llysiau yn tyfu a thrwy hyn dw i wedi cyfarfod â nifer fawr o'r pentrefwyr, pob un ohonynt yn gyfeillgar a chroesawgar tuag at y newydd ddyfodiad.  

  

Mae bod yn wirfoddolwr yn hyblyg a does dim rhaid ymroi i'r un bore a prynhawn neu'r un weithgaredd bob wythnos ond gallwch ddewis gwneud yr hyn a ddymunwch. Mae yna gyfleoedd i bawb, beth bynnag yw'ch diddordeb. Mae pawb gyda bywydau eu hunain sy ar brydiau yn gallu cymryd drosodd – ond does dim pwysau, gallwch wneud gymaint neu cyn lleied ag yr hoffech.


 

Digwyddiadau'r Hydref

  • Marchnad y Gwneuthurwyr – 35+ o stondinau, cefnogwyd yn dda a chodwyd dros £1300 i'r gymuned. Defnyddwydd peth o'r arian yma i brynu offer newydd i'r gegin – Poptŷ gwynt, cymysgydd bwyd, blendiwr a thuniau cacennau (ar gyfer Adam!) Arianwyd anrhegion Santa i'r plant yn rhannol gan y digwyddiad yma.


  • Weloch chi ni ar S4C?


  • Cinio Nadolig – Mwynheuodd 70 o bensiynwyr lleol ginio Nadolig ac adloniant yn neuadd y pentref newydd


  • Ffair Nadolig – digwyddiad arall a fynychwyd yn dda gyda stondinau a ddarparwyd gan grwpiau lleol fel yr eglwys a'r WI. Roedd yna raffl arall llwyddiannus a daeth Santa. Codwyd dros £900


  • Storom Darragh – Am storom enfawr!!. Tynnodd y gymuned at ei gilydd tra roedd rhai ohonom heb drydan, heb rhyngrwyd , dŵr, na gwres. Fe droiodd neuadd y pentref mewn i hwb cynnes. Gwerthfawrogwyd caredigrwydd a chefnogaeth ein cymdogion a'r gwirfoddolwyr ac am ddefnydd neuadd y pentref. Diolch i bawb wnaeth helpu dros y cyfnod hynny. 😊


 

Digwyddiadau 2025

  • Marchnad Fwyd Dydd Sul Misol – 16 Chwefror ymlaen

  • Cwis y Pentre – Nos Wener 14eg Mawth am 7.00 yh

  • Marchnad y Gwneuthurwyr – 4ydd Mai


Digwyddiadau Wythnosol Rheolaidd

  • Gwiriwch y posteri yn Neuadd y Pentref ac yng Nghanolofan y Dyffryn am gynlluniau'r wythnos

  • Grwp Garddio

    • Mae'r tîm garddio yn tyfu blodau, salad, llysiau a pherlysiau yn yr ardd tu ôl i Ganolfon y Dyffryn Croeso i bawb. Edrychwch am ein stondin yn Marchnad y Gwneuthurwyr ym mis Mai.

  • Dillad Dwywaith ar gael bod dydd Mawth rhwng 10 tan 12 yb  yng Nghanolfan y Dyffryn Mae'r tîm yn gweithio'n galed i drefnu'r dillad fel ei bod yn haws i chwilota. Dewch draw am sgwrs yn Gymraeg neu yn Saeseneg i'r bore coffi ac edrychwch drwy'r llyfrau ar yr un pryd. .

  • Digi Club (Bore dydd Llun a bore dydd Mercher am 11.00 yb) yn rhedeg yn llwyddiannus ac yn arddangos yr angen i gymunedau arall i ddilyn. Technoleg i bawb!


 
  • Fare Share – Arbed bwyd rhag Claddfeydd Sbwriel

  • Rydyn yn treialu cyflenwad bwyd gwahanol am y tri mis nesa oddi wrth FareShare a Skanda Vale

  • Fare Share – dechreuodd ar ddydd Llun y 13eg Ionawr.

  • Byddwn ar agor yn yr Ystafell Gwrdd a Chyfarch yn Neuadd Y Pentref bob nos Lun rhwng 5 a 7 o'r gloch yh

  • Dewch i nôl bwyd i chi a'ch teulu a'ch cymdogion. Basai unrhyw rhodd ariannol gallwch fforddio yn gymorth i gadw'r project i fynd.


 

Golygwyd gan Penny Catt a Barbara. Harper I gyflwyno erthygl 100 gair cysylltwch â barbaraharper1234@gmail.com

Cyfieithwyd gan Eirian Rees

Rhif Elusen: 1199729

 
 

CYSYLLTWCH Â NI

Aberporth, Ceredigion

SA43 2EW

/// laugh.lawfully.transmitted

Elusen Gofrestredig: 1199729

Ffôn: 07930 995314

  • Instagram
  • Facebook

FOD Y CYNTAF I WYBOD

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr i gael y wybodaeth ddiweddaraf

Diolch am gyflwyno! Mae gennych bost...

© 2025 Neuadd Bentref Aber-porth

bottom of page